29 Ond os oedd y tarw wedi cornio rhywun o'r blaen, a'r perchennog yn gwybod hynny ond heb ofalu na fyddai'r peth yn digwydd eto, rhaid i'r tarw gael ei ladd a rhaid i'r perchennog farw hefyd;
30 neu mae teulu'r un gafodd ei ladd yn gallu hawlio swm o arian yn iawndal gan berchennog y tarw.
31 Mae'r un peth yn wir os ydy'r tarw yn cornio plentyn.
32 Os ydy'r tarw yn cornio caethwas neu forwyn, mae'r perchennog i dalu tri deg darn o arian, ac mae'r tarw i gael ei ladd drwy daflu cerrig ato.
33 Os ydy rhywun yn cloddio pydew a'i adael ar agor, a tarw neu asyn rhywun yn syrthio iddo a marw,
34 rhaid i'r sawl sydd biau'r pydew dalu am yr anifail, ond bydd yn cael cadw'r corff.
35 Os ydy tarw un dyn yn cornio a lladd tarw rhywun arall, mae'r tarw byw i gael ei werthu, a'r arian i gael ei rannu rhyngddyn nhw. Maen nhw hefyd i rannu'r tarw gafodd ei ladd.