33 Os ydy rhywun yn cloddio pydew a'i adael ar agor, a tarw neu asyn rhywun yn syrthio iddo a marw,
34 rhaid i'r sawl sydd biau'r pydew dalu am yr anifail, ond bydd yn cael cadw'r corff.
35 Os ydy tarw un dyn yn cornio a lladd tarw rhywun arall, mae'r tarw byw i gael ei werthu, a'r arian i gael ei rannu rhyngddyn nhw. Maen nhw hefyd i rannu'r tarw gafodd ei ladd.
36 Ond os oedd y tarw wedi cornio o'r blaen, a'r perchennog yn gwybod hynny ond heb ofalu na fyddai'r peth yn digwydd eto, rhaid iddo roi tarw yn ei le, a bydd e'n cael cadw'r anifail marw.