1 Os ydy rhywun yn dwyn tarw neu ddafad, ac yna'n lladd yr anifail neu ei werthu, rhaid talu'n ôl bump o fuchod am y tarw, a pedair dafad am yr un ddafad.
2 Os ydy lleidr yn cael ei ddal yn torri i mewn i dŷ, ac mae'n cael ei daro ac yn marw, fydd y person wnaeth ei ladd ddim yn cael ei gyfri'n euog o dywallt gwaed.
3 Ond os ydy'r peth yn digwydd yng ngolau dydd, bydd yn euog.Os ydy lleidr yn cael ei ddal, rhaid iddo dalu'n llawn am beth gafodd ei ddwyn. Os nad ydy e'n gallu talu, bydd y lleidr yn cael ei werthu fel caethwas i dalu'r ddyled.
4 Os ydy'r anifail gafodd ei ddwyn yn cael ei ddarganfod yn dal yn fyw – p'run ai tarw, asyn neu ddafad – rhaid i'r lleidr dalu dwywaith ei werth yn iawndal.