11 rhaid i'r un oedd yn gofalu am yr anifail fynd ar ei lw o flaen yr ARGLWYDD mai nid fe oedd yn gyfrifol. Wedyn bydd y sawl oedd piau'r anifail yn derbyn ei air, a fydd dim rhaid talu iawndal.
12 Ond os cafodd yr anifail ei ddwyn, rhaid iddo dalu amdano.
13 Os mai anifail gwyllt wnaeth ei ladd a'i rwygo'n ddarnau, rhaid dangos y corff yn dystiolaeth, a fydd dim rhaid talu iawndal.
14 Os ydy person yn benthyg anifail gan rywun arall, a'r anifail hwnnw'n cael ei anafu neu'n marw pan oedd y perchennog ddim yna, rhaid i'r un wnaeth fenthyg yr anifail dalu'n llawn amdano.
15 Ond os oedd y perchennog yno ar y pryd, fydd dim rhaid talu. Ac os oedd yr anifail wedi ei logi am dâl, mae'r arian gafodd ei dalu yn cyfro'r golled.
16 Os ydy dyn yn denu merch ifanc sydd heb ddyweddïo i gael rhyw gydag e, rhaid iddo dalu i'w rhieni yr pris sy'n ddyledus i'w chymryd yn wraig iddo'i hun.
17 Rhaid iddo dalu'r arian hyd yn oed os ydy'r tad yn gwrthod gadael iddo briodi'r ferch.