22 Paid cymryd mantais o wraig weddw neu blentyn amddifad.
23 Os gwnei di hynny, a hwythau'n gweiddi arna i am help, bydda i'n ymateb.
24 Bydda i wedi gwylltio'n lân. Byddwch chi'r dynion yn cael eich lladd mewn rhyfel. Bydd eich gwragedd chi'n cael eu gadael yn weddwon, a bydd eich plant yn amddifad.
25 Os wyt ti'n benthyg arian i un o'm pobl Israel sydd mewn angen, paid bod fel y benthycwyr sy'n codi llog arnyn nhw.
26 Os wyt ti'n cymryd mantell rhywun yn ernes am ei fod mewn dyled i ti, gwna'n siŵr dy fod yn ei rhoi yn ôl iddo cyn i'r haul fachlud,
27 gan mai dyna'r cwbl sydd ganddo i gadw'n gynnes yn y nos. Os bydd e'n gweiddi arna i am help, bydda i'n gwrando arno, achos dw i'n garedig.
28 Paid cymryd enw Duw yn ysgafn, na melltithio un o arweinyddion dy bobl.