3 Ond os ydy'r peth yn digwydd yng ngolau dydd, bydd yn euog.Os ydy lleidr yn cael ei ddal, rhaid iddo dalu'n llawn am beth gafodd ei ddwyn. Os nad ydy e'n gallu talu, bydd y lleidr yn cael ei werthu fel caethwas i dalu'r ddyled.
4 Os ydy'r anifail gafodd ei ddwyn yn cael ei ddarganfod yn dal yn fyw – p'run ai tarw, asyn neu ddafad – rhaid i'r lleidr dalu dwywaith ei werth yn iawndal.
5 Os ydy rhywun yn rhoi ei anifeiliaid i bori yn ei gae neu ei winllan, ac yn gadael iddyn nhw grwydro a pori ar dir rhywun arall, rhaid iddo dalu am y golled gyda'r cynnyrch gorau o'i gae a'i winllan ei hun.
6 Os oes tân yn mynd allan o reolaeth, ac yn lledu drwy'r gwrychoedd a llosgi cnydau sydd wedi eu casglu neu gnydau sy'n dal i dyfu yn y caeau, rhaid i'r person ddechreuodd y tân dalu am y difrod.
7 Os ydy person yn rhoi arian neu bethau gwerthfawr i rywun eu cadw'n saff, a'r pethau hynny'n cael eu dwyn, rhaid i'r lleidr dalu dwywaith cymaint yn ôl os ydy e'n cael ei ddal.
8 Os nad oes lleidr yn cael ei ddal, rhaid i berchennog y tŷ sefyll ei brawf o flaen Duw, i weld os mai fe wnaeth ddwyn yr eiddo.
9 Dyma sydd i ddigwydd mewn achos o anghydfod rhwng pobl (am darw, asyn, dafad neu afr, mantell neu unrhyw beth arall), lle mae rhywun yn honni, ‘Fi sydd piau hwn.’: Mae'r ddau i ymddangos o flaen Duw, ac mae'r un sy'n cael ei ddedfrydu'n euog i dalu dwywaith cymaint yn ôl i'r llall.