9 Dyma sydd i ddigwydd mewn achos o anghydfod rhwng pobl (am darw, asyn, dafad neu afr, mantell neu unrhyw beth arall), lle mae rhywun yn honni, ‘Fi sydd piau hwn.’: Mae'r ddau i ymddangos o flaen Duw, ac mae'r un sy'n cael ei ddedfrydu'n euog i dalu dwywaith cymaint yn ôl i'r llall.
10 Os ydy person yn gofyn i rywun arall edrych ar ôl asyn neu darw neu ddafad neu afr iddo, a'r anifail yn marw, cael ei anafu neu'n mynd ar goll, a neb wedi ei weld,
11 rhaid i'r un oedd yn gofalu am yr anifail fynd ar ei lw o flaen yr ARGLWYDD mai nid fe oedd yn gyfrifol. Wedyn bydd y sawl oedd piau'r anifail yn derbyn ei air, a fydd dim rhaid talu iawndal.
12 Ond os cafodd yr anifail ei ddwyn, rhaid iddo dalu amdano.
13 Os mai anifail gwyllt wnaeth ei ladd a'i rwygo'n ddarnau, rhaid dangos y corff yn dystiolaeth, a fydd dim rhaid talu iawndal.
14 Os ydy person yn benthyg anifail gan rywun arall, a'r anifail hwnnw'n cael ei anafu neu'n marw pan oedd y perchennog ddim yna, rhaid i'r un wnaeth fenthyg yr anifail dalu'n llawn amdano.
15 Ond os oedd y perchennog yno ar y pryd, fydd dim rhaid talu. Ac os oedd yr anifail wedi ei logi am dâl, mae'r arian gafodd ei dalu yn cyfro'r golled.