1 Paid hel straeon sydd ddim yn wir. Paid helpu pobl ddrwg drwy ddweud celwydd yn y llys.
2 Paid dilyn y dorf i wneud drwg. Paid rhoi tystiolaeth ffals sydd ddim ond yn cydfynd gyda beth mae pawb arall yn ei ddweud.
3 A paid dangos ffafriaeth at rywun mewn achos llys dim ond am ei fod yn dlawd.
4 Os wyt ti'n dod o hyd i darw neu asyn dy elyn yn crwydro, dos â'r anifail yn ôl i'w berchennog.
5 Os wyt ti'n gweld asyn rhywun sy'n dy gasáu di wedi syrthio dan ei faich, paid pasio heibio; dos i'w helpu i godi.
6 Paid gwrthod cyfiawnder i rywun mewn achos llys am ei fod yn dlawd.
7 Paid byth a cyhuddo pobl ar gam – rhag i rywun dieuog gael ei ddedfrydu i farwolaeth. Bydda i'n cosbi'r rhai sy'n gwneud drwg.