10 Rwyt i hau cnydau a chasglu'r cynhaeaf am chwe mlynedd.
11 Ond yna ar y seithfed flwyddyn mae'r tir i gael gorffwys, heb gael ei drin. Bydd y bobl dlawd yn cael casglu a bwyta beth bynnag sy'n tyfu ohono'i hun, a'r anifeiliaid gwylltion yn cael beth sy'n weddill. Gwna'r un peth gyda dy winllan a dy goed olewydd.
12 Rwyt i weithio am chwe diwrnod, a gorffwys ar y seithfed. Bydd yn rhoi cyfle i dy ychen a dy asyn orffwys, ac i'r caethweision sydd wedi eu geni yn dy dŷ a'r mewnfudwr sy'n gweithio i ti ymlacio.
13 Gwyliwch eich bod chi'n gwneud beth dw i'n ddweud wrthoch chi. Peidiwch talu sylw i dduwiau eraill, na hyd yn oed eu henwi nhw!
14 Bob blwyddyn dych chi i gynnal tair gŵyl i mi.
15 Yn gyntaf, Gŵyl y Bara Croyw. Ar ddyddiau arbennig yn mis Abib byddwch yn dathlu dod allan o wlad yr Aifft. Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, fel dwedais i bryd hynny. Does neb i ddod ata i heb rywbeth i'w offrymu.
16 Yna Gŵyl y Cynhaeaf, pan fyddwch yn dod â ffrwyth cyntaf eich cnydau i mi.Ac yn olaf, Gŵyl Casglu'r Cynhaeaf, ar ddiwedd y flwyddyn, pan fyddwch wedi gorffen casglu eich cnydau i gyd.