15 Yn gyntaf, Gŵyl y Bara Croyw. Ar ddyddiau arbennig yn mis Abib byddwch yn dathlu dod allan o wlad yr Aifft. Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, fel dwedais i bryd hynny. Does neb i ddod ata i heb rywbeth i'w offrymu.
16 Yna Gŵyl y Cynhaeaf, pan fyddwch yn dod â ffrwyth cyntaf eich cnydau i mi.Ac yn olaf, Gŵyl Casglu'r Cynhaeaf, ar ddiwedd y flwyddyn, pan fyddwch wedi gorffen casglu eich cnydau i gyd.
17 Felly dair gwaith bob blwyddyn, mae'r dynion i gyd i ddod o flaen y Meistr, sef yr ARGLWYDD.
18 Rhaid peidio offrymu gwaed anifail sydd wedi ei aberthu gyda bara sydd â burum ynddo. A dydy'r brasder ddim i'w adael heb ei losgi dros nos.
19 Tyrd â ffrwyth cyntaf gorau dy dir i deml yr ARGLWYDD dy Dduw.Paid berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.”
20 “Dw i'n mynd i anfon angel o'ch blaen chi, i'ch cadw chi'n saff pan fyddwch chi'n teithio, ac i'ch arwain i'r lle dw i wedi ei baratoi ar eich cyfer chi.
21 Gwrandwch arno, a gwnewch beth mae e'n ddweud. Peidiwch tynnu'n groes iddo achos fydd e ddim yn maddau i chi. Fi sydd yna ynddo fe.