28 Bydda i'n achosi panig llwyr, ac yn gyrru'r Hefiaid, Canaaneaid a Hethiaid allan o'ch ffordd.
29 Ond fydd hyn ddim yn digwydd i gyd ar yr un pryd. Does gen i ddim eisiau i'r wlad droi'n anialwch, ac anifeiliaid gwylltion yn cymryd drosodd.
30 Bydda i'n eu gyrru nhw allan bob yn dipyn, i roi cyfle i'ch poblogaeth chi dyfu digon i lenwi'r wlad.
31 “Bydda i'n gosod ffiniau i chi o'r Môr Coch i Fôr y Canoldir, ac o'r anialwch i Afon Ewffrates. Bydda i'n gwneud i chi goncro'r wlad, a byddwch yn gyrru'r bobloedd sy'n byw yno allan.
32 Rhaid i chi beidio gwneud cytundeb gwleidyddol gyda nhw, na chael dim i'w wneud â'i duwiau nhw.
33 Dŷn nhw ddim i gael byw yn y wlad, rhag iddyn nhw wneud i chi bechu yn fy erbyn i. Bydd hi ar ben arnoch chi os gwnewch chi ddechrau addoli eu duwiau nhw.”