4 Os wyt ti'n dod o hyd i darw neu asyn dy elyn yn crwydro, dos â'r anifail yn ôl i'w berchennog.
5 Os wyt ti'n gweld asyn rhywun sy'n dy gasáu di wedi syrthio dan ei faich, paid pasio heibio; dos i'w helpu i godi.
6 Paid gwrthod cyfiawnder i rywun mewn achos llys am ei fod yn dlawd.
7 Paid byth a cyhuddo pobl ar gam – rhag i rywun dieuog gael ei ddedfrydu i farwolaeth. Bydda i'n cosbi'r rhai sy'n gwneud drwg.
8 Paid derbyn breib. Mae breib yn dallu'r sawl sy'n gweld yn glir, ac yn tanseilio achos pobl sy'n ddieuog.
9 Paid cam-drin mewnfudwr. Ti'n gwybod yn iawn sut deimlad ydy e – mewnfudwyr oeddech chi yn yr Aifft.
10 Rwyt i hau cnydau a chasglu'r cynhaeaf am chwe mlynedd.