1 “Mae'r Tabernacl ei hun i gael ei wneud o ddeg llen o'r lliain main gorau, gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.
2 Mae pob llen i fod yn un deg dau metr o hyd a dau fetr o led – i gyd yr un faint.
3 Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r pump arall yr un fath.
4 Yna gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set –
5 hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn a'i gilydd.