16 Mae pob un i fod yn bedwar metr o hyd, a chwe deg chwech centimetr o led,
17 gyda dau denon ar bob un i'w cysylltu â'i gilydd.
18 Rhaid gwneud dau ddeg ffrâm i ochr ddeheuol y Tabernacl,
19 a pedwar deg soced arian i ddal y fframiau – dwy soced i'r ddau denon ar bob ffrâm.
20 Wedyn dau ddeg ffrâm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol.
21 A pedwar deg soced iddyn nhw – dwy soced dan bob ffrâm.
22 Yna chwe ffrâm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol,