24 Yn y corneli mae dau ffrâm yn ffitio gyda'i gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gyda'i gilydd gan gylch ar y top. Mae'r fframiau ar y ddwy gornel i fod yr un fath.
25 Mae hynny'n gwneud wyth ffrâm gydag un deg chwech o socedi arian – dwy soced dan bob ffrâm.
26-27 “Yna rwyt i wneud croesfarrau o goed acasia – pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a pump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin.
28 Mae'r croesfar ar ganol y fframiau i ymestyn o un pen i'r llall.
29 Mae'r fframiau a'r croesfarrau i gael eu gorchuddio gydag aur, ac mae'r cylchoedd sy'n dal y croesfarrau i gael eu gwneud o aur hefyd.
30 “Pan fyddi'n codi'r Tabernacl, rhaid dilyn yr union fanylion gafodd eu rhoi i ti ar y mynydd.
31 “Rwyt i wneud llen arbennig o'r lliain main gorau, gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.