3 Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r pump arall yr un fath.
4 Yna gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set –
5 hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn a'i gilydd.
6 Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn.
7 “Yna nesaf gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl – un deg un ohonyn nhw.
8 Mae pob llen i fod yn un deg tri metr o hyd a dau fetr o led – i gyd yr un faint.
9 Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r chwech arall i gael eu gwnïo at ei gilydd. Mae'r chweched llen yn yr ail grŵp o lenni, i'w phlygu drosodd i wneud mynedfa ar du blaen y babell.