8 Mae pob llen i fod yn un deg tri metr o hyd a dau fetr o led – i gyd yr un faint.
9 Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r chwech arall i gael eu gwnïo at ei gilydd. Mae'r chweched llen yn yr ail grŵp o lenni, i'w phlygu drosodd i wneud mynedfa ar du blaen y babell.
10 Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set,
11 a hanner can bachyn pres i fynd trwy'r dolenni i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn.
12 Mae'r hanner llen sydd dros ben i'w adael yn hongian dros gefn y Tabernacl.
13 Yna ar ddwy ochr y Tabernacl bydd yr hanner metr ychwanegol yn golygu fod y darn sy'n hongian dros yr ymyl yn ei gorchuddio hi i'r llawr.
14 “Yna'n olaf, dau orchudd arall dros y cwbl – un wedi ei wneud o grwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, a gorchudd allanol o grwyn môr-fuchod.