1 “Dyma sut rwyt ti i'w cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi: Cymer darw ifanc a dau hwrdd sydd â ddim byd o'i le arnyn nhw.
2 Yna gyda'r blawd gwenith gorau, gwna fara heb furum ynddo, cacennau wedi eu cymysgu gydag olew, a bisgedi tenau wedi eu socian mewn olew – y cwbl heb furum ynddyn nhw.
3 Rho'r rhain i gyd mewn basged, a mynd â nhw gyda'r tarw ifanc a'r ddau hwrdd.
4 Yna dos ag Aaron a'i feibion at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Golcha nhw gyda dŵr.