15 “Yna rwyt i gymryd un hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail.
16 Wedyn lladd yr hwrdd, cymryd ei waed a'i sblasio o gwmpas yr allor.
17 Wedyn rhaid torri'r hwrdd yn ddarnau, golchi'r coluddion a'r coesau cyn eu gosod nhw ar y darnau a'r pen
18 ar yr allor, a llosgi'r cwbl. Offrwm i'w losgi'n llwyr ydy e – offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
19 “Yna cymryd yr ail hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar yr anifail yma eto.
20 Lladd yr hwrdd, yna cymer beth o'r gwaed a'i roi ar waelod clust dde Aaron, a'r un fath ar ei feibion. A hefyd ar fawd eu llaw dde ac ar fawd y droed dde. Yna sblasio gweddill y gwaed o gwmpas yr allor.
21 Wedyn cymryd peth o'r gwaed sydd ar yr allor, a'r olew eneinio, a'i daenellu ar Aaron a'i gwisgoedd, ac ar feibion Aaron a'u gwisgoedd nhw. Wedyn bydd Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd wedi eu cysegru.