37 Am saith diwrnod rwyt i baratoi'r allor a'i chysegru i'w gwneud yn iawn i'w defnyddio. Wedyn bydd yr allor yn sanctaidd iawn, a bydd unrhyw beth sy'n ei chyffwrdd yn gysegredig.
38 “Dyma beth sydd i'w gyflwyno ar yr allor yn rheolaidd bob dydd: Dau oen blwydd oed –
39 un i'w gyflwyno yn y bore, a'r llall pan mae'n dechrau nosi.
40 Mae'r oen cyntaf i'w gyflwyno gyda cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr o olew olewydd, a gyda litr o win yn offrwm o ddiod.
41 Yna cyflwyno'r ail pan mae'n dechrau nosi, gyda'r un offrwm o rawn ac offrwm o ddiod a'r bore – offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
42 Bydd yr offrwm yma'n cael ei losgi'n rheolaidd, ar hyd y cenedlaethau, wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Dyna ble fydda i'n dy gyfarfod di, ac yn siarad â ti.
43 Dyna ble fydda i'n cyfarfod pobl Israel. Bydd fy ysblander i yn ei wneud yn lle cysegredig.