41 Yna cyflwyno'r ail pan mae'n dechrau nosi, gyda'r un offrwm o rawn ac offrwm o ddiod a'r bore – offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
42 Bydd yr offrwm yma'n cael ei losgi'n rheolaidd, ar hyd y cenedlaethau, wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Dyna ble fydda i'n dy gyfarfod di, ac yn siarad â ti.
43 Dyna ble fydda i'n cyfarfod pobl Israel. Bydd fy ysblander i yn ei wneud yn lle cysegredig.
44 “Felly bydd y Tabernacl a'r allor wedi eu cysegru, a bydd Aaron a'i feibion wedi eu cysegru i fod yn offeiriaid i mi.
45 Dw i'n mynd i aros gyda phobl Israel. Fi fydd eu Duw nhw.
46 Byddan nhw'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw, ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft, er mwyn i mi fyw gyda nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw.