5 Yna cymer y gwisgoedd ac arwisgo Aaron gyda'r crys, y fantell sy'n mynd gyda'r effod, yr effod ei hun, y darn dros y frest, a clymu'r effod gyda'r strap cywrain sydd wedi ei blethu.
6 Yna rho'r twrban ar ei ben, a rhwymo'r symbol ei fod wedi ei gysegru i waith Duw ar y twrban.
7 Yna ei eneinio trwy dywallt yr olew ar ei ben.
8 Wedyn arwisga'r meibion yn eu crysau nhw,
9 rhwyma sash am eu canol (Aaron a'i feibion), a gosod eu penwisg arnyn nhw i ddangos mai nhw sydd i wasanaethu fel offeiriaid bob amser. Dyma sut mae Aaron a'i feibion i gael eu hordeinio.
10 “Rwyt i gyflwyno'r tarw o flaen Pabell Presenoldeb Duw. Yno mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail.
11 Yna rwyt i ladd y tarw o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.