9 rhwyma sash am eu canol (Aaron a'i feibion), a gosod eu penwisg arnyn nhw i ddangos mai nhw sydd i wasanaethu fel offeiriaid bob amser. Dyma sut mae Aaron a'i feibion i gael eu hordeinio.
10 “Rwyt i gyflwyno'r tarw o flaen Pabell Presenoldeb Duw. Yno mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail.
11 Yna rwyt i ladd y tarw o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.
12 Wedyn cymer beth o waed y tarw a'i roi ar gyrn yr allor gyda dy fys. Mae gweddill y gwaed i gael ei dywallt wrth droed yr allor.
13 Yna cymer y brasder o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a'u llosgi nhw ar yr allor.
14 Ond mae'r cig, y croen a'r coluddion i gael eu llosgi tu allan i'r gwersyll. Yr offrwm puro ydy e.
15 “Yna rwyt i gymryd un hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail.