11 Dyma Moses yn dweud wrth Dduw, “Fi? Pwy ydw i i fynd at y Pharo, ac arwain pobl Israel allan o'r Aifft?”
12 “Bydda i gyda ti, dw i'n addo,” meddai Duw. “A dyna fydd yr arwydd clir mai fi wnaeth dy anfon di: Pan fyddi di wedi arwain y bobl allan o'r Aifft, byddwch chi'n fy addoli i ar y mynydd yma.”
13 Ond dyma Moses yn dweud, “Ond os gwna i fynd at bobl Israel a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw eich hynafiaid chi wedi fy anfon i atoch chi,’ byddan nhw'n gofyn i mi, ‘Beth ydy ei enw e?’ Beth ddylwn i ddweud wedyn wrthyn nhw?”
14 A dyma Duw yn ateb Moses, “FI YDY'R UN YDW I. Rhaid i ti ddweud hyn wrth bobl Israel, ‘FI YDY sydd wedi fy anfon i atoch chi.’”
15 A dyma fe'n dweud hefyd, “Rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, sydd wedi fy anfon i atoch chi. Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob. Dyma fy enw i am byth, a'r enw fydd pobl yn ei gofio o un genhedlaeth i'r llall.’
16 “Dos i alw arweinwyr Israel at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ymddangos i mi – Duw Abraham, Isaac a Jacob. Mae'n dweud, “Dw i wedi bod yn cadw golwg arnoch chi. Dw i wedi gweld sut ydych chi'n cael eich trin yn yr Aifft.
17 A dw i'n addo eich rhyddhau chi o'r caledi yn yr Aifft, a'ch arwain chi i'r wlad ble mae'r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo!”’