2 yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Mae'r cyrn arni i fod yn un darn gyda'r allor ei hun.
3 Yna gorchuddia hi i gyd gyda haen o aur pur – y top, yr ochrau a'r cyrn. A gosod forder aur o'i chwmpas i'w haddurno.
4 Gosod ddau gylch aur ar ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion trwyddyn nhw i gario'r allor.
5 Mae'r polion i gael eu gwneud o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur.
6 Yna gosod yr allor o flaen y llen mae Arch y dystiolaeth tu ôl iddo (y llen o flaen caead yr Arch sydd dros y dystiolaeth). Dyna lle bydda i'n dy gyfarfod di.
7 “Bob bore, pan fydd Aaron yn trin y lampau, rhaid iddo losgi arogldarth persawrus ar yr allor yma.
8 A'r un fath pan fydd e'n goleuo'r lampau ar ôl iddi ddechrau nosi. Mae hyn i ddigwydd yn rheolaidd ar hyd y cenedlaethau.