8 A'r un fath pan fydd e'n goleuo'r lampau ar ôl iddi ddechrau nosi. Mae hyn i ddigwydd yn rheolaidd ar hyd y cenedlaethau.
9 Rhaid peidio llosgi arogldarth gwahanol arni, na'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, na'r offrwm o rawn, a rhaid peidio tywallt offrwm o ddiod arni.
10 Ond un waith y flwyddyn bydd Aaron yn puro'r allor, iddi fod yn iawn i'w defnyddio, drwy roi peth o waed yr offrwm dros bechod ar y cyrn. Mae hyn i fod i ddigwydd bob blwyddyn ar hyd y cenedlaethau. Bydd yn cael ei chysegru'n llwyr i'r ARGLWYDD.”
11 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses
12 “Pan fyddi'n cynnal cyfrifiad o bobl Israel, mae pob dyn sy'n cael ei gyfri i dalu iawndal am ei fywyd. Wedyn fydd pla ddim yn eu taro nhw wrth i ti eu cyfrif nhw.
13 Maen nhw i gyd i dalu treth o hanner sicl (sef bron chwe gram o arian) pan maen nhw'n cael eu cyfrif. (Mesur safonol y cysegr sydd i gael ei ddefnyddio – sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.) Mae'r arian yma i'w roi'n offrwm i'r ARGLWYDD.
14 Mae pob un sy'n ugain oed neu'n hŷn, i roi offrwm i'r ARGLWYDD.