10 Gad lonydd i mi. Dw i wedi digio'n lân gyda nhw, a dw i'n mynd i'w dinistrio nhw. Bydda i'n dy wneud di, Moses, yn dad i genedl fawr yn eu lle nhw.”
11 Ond dyma Moses yn ceisio tawelu'r ARGLWYDD ei Dduw, a dweud wrtho, “O ARGLWYDD, pam rwyt ti mor ddig hefo dy bobl? Ti sydd wedi defnyddio dy rym a dy nerth i ddod â nhw allan o wlad yr Aifft.
12 Wyt ti am i'r Eifftiaid ddweud, ‘Roedd e eisiau gwneud drwg iddyn nhw. Dyna pam wnaeth e eu harwain nhw allan. Roedd e eisiau eu lladd nhw ar y mynyddoedd, a chael gwared â nhw'n llwyr oddi ar wyneb y ddaear!’? Paid bod mor ddig. Meddwl eto cyn gwneud y fath ddrwg i dy bobl!
13 Cofia beth wnest ti ei addo i dy weision Abraham, Isaac a Jacob. Dwedaist wrthyn nhw, ‘Dw i'n mynd i roi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr, a dw i'n mynd i roi'r tir yma dw i wedi bod yn sôn amdano i dy ddisgynyddion di. Byddan nhw'n ei etifeddu am byth.’”
14 Felly dyma'r ARGLWYDD yn newid ei feddwl. Roedd yn sori ei fod wedi bwriadu gwneud niwed i'w bobl.
15 A dyma Moses yn dechrau ar ei ffordd i lawr o ben y mynydd. Roedd yn cario dwy lech y dystiolaeth yn ei ddwylo. Roedd ysgrifen ar ddwy ochr y llechi.
16 Duw ei hun oedd wedi eu gwneud nhw, a Duw oedd wedi ysgrifennu arnyn nhw – roedd y geiriau wedi eu crafu ar y llechi.