3 Felly dyma'r bobl i gyd yn tynnu eu clustdlysau, a dod â nhw i Aaron.
4 Cymerodd yr aur ganddyn nhw, a defnyddio offer gwaith metel i wneud eilun ar siâp tarw ifanc allan ohono. A dyma'r bobl yn dweud, “O Israel! Dyma'r duwiau ddaeth â ti allan o'r Aifft!”
5 Pan welodd Aaron eu hymateb nhw, dyma fe'n codi allor o flaen yr eilun, ac yna gwneud cyhoeddiad, “Yfory byddwn ni'n cynnal Gŵyl i'r ARGLWYDD!”
6 Felly dyma nhw'n codi'n gynnar y bore wedyn a cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, ac yna codi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd.
7 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Brysia, dos yn ôl i lawr! Mae dy bobl di, y rhai ddaethost ti â nhw allan o wlad yr Aifft, wedi gwneud peth ofnadwy.
8 Maen nhw eisoes wedi troi i ffwrdd oddi wrth beth wnes i orchymyn – maen nhw wedi gwneud eilun ar siâp tarw ifanc, ac wedi ei addoli ac aberthu iddo a dweud, ‘O Israel! Dyma'r duwiau ddaeth â ti allan o'r Aifft!’”
9 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dw i'n edrych ar y bobl yma, ac yn gweld eu bod nhw'n bobl ystyfnig iawn.