22 “Rhaid i chi gadw Gŵyl y Cynhaeaf – gyda ffrwyth cyntaf y cynhaeaf gwenith – a Gŵyl Casglu'r Cynhaeaf ar ddiwedd y flwyddyn.
23 “Felly, dair gwaith bob blwyddyn mae'r dynion i gyd i ddod o flaen y Meistr, yr ARGLWYDD, sef Duw Israel.
24 Dw i'n mynd i yrru allan bobloedd o dy flaen di a rhoi mwy eto o dir i ti. Ac os byddi di'n ymddangos o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw dair gwaith bob blwyddyn, fydd neb yn dod ac yn ceisio dwyn dy dir oddi arnat ti.
25 Rhaid peidio offrymu gwaed anifail sydd wedi ei aberthu gyda bara sydd â burum ynddo. A does dim o aberth Gŵyl y Pasg i fod wedi ei adael ar ôl y bore wedyn.
26 Tyrd â ffrwyth cyntaf gorau dy dir i deml yr ARGLWYDD dy Dduw.Paid berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.”
27 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ysgrifenna hyn i gyd i lawr. Dyma amodau'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda ti a phobl Israel.”
28 Roedd Moses yno gyda Duw am bedwar deg diwrnod, ddydd a nos. Wnaeth e ddim bwyta nac yfed o gwbl. A dyma fe'n ysgrifennu amodau'r ymrwymiad ar y llechi – sef y Deg Gorchymyn.