25 Rhaid peidio offrymu gwaed anifail sydd wedi ei aberthu gyda bara sydd â burum ynddo. A does dim o aberth Gŵyl y Pasg i fod wedi ei adael ar ôl y bore wedyn.
26 Tyrd â ffrwyth cyntaf gorau dy dir i deml yr ARGLWYDD dy Dduw.Paid berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.”
27 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ysgrifenna hyn i gyd i lawr. Dyma amodau'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda ti a phobl Israel.”
28 Roedd Moses yno gyda Duw am bedwar deg diwrnod, ddydd a nos. Wnaeth e ddim bwyta nac yfed o gwbl. A dyma fe'n ysgrifennu amodau'r ymrwymiad ar y llechi – sef y Deg Gorchymyn.
29 Pan ddaeth Moses i lawr o ben Mynydd Sinai gyda dwy lechen y dystiolaeth yn ei law, doedd e ddim yn sylweddoli fod ei wyneb wedi bod yn disgleirio wrth i'r ARGLWYDD siarad gydag e.
30 Pan welodd Aaron a phobl Israel Moses yn dod, roedd ei wyneb yn dal i ddisgleirio, ac roedd ganddyn nhw ofn mynd yn agos ato.
31 Ond dyma Moses yn galw arnyn nhw, a dyma Aaron a'r arweinwyr eraill yn dod yn ôl i siarad gydag e.