3 Does neb arall i ddod gyda ti. Does neb arall i ddod yn agos at y mynydd. Paid hyd yn oed gadael i'r defaid a'r geifr a'r gwartheg bori o flaen y mynydd.”
4 Felly dyma Moses yn cerfio dwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Yna'n gynnar y bore wedyn aeth i fyny i ben Mynydd Sinai, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Aeth â'r ddwy lechen gydag e.
5 A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, sefyll yna gydag e, a chyhoeddi mai ei enw ydy yr ARGLWYDD.
6 Dyma'r ARGLWYDD yn pasio heibio o'i flaen a chyhoeddi, “Yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD! mae'n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a'i haelioni a'i ffyddlondeb yn anhygoel!
7 Mae'n dangos cariad di-droi-nôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod. Ond dydy e ddim yn gadael i'r euog fynd heb ei gosbi. Bydd yn ymateb i bechodau'r tadau sy'n gadael eu hôl ar eu plant a'u plant hwythau – am dair neu bedair cenhedlaeth.”
8 Ac ar unwaith dyma Moses yn ymgrymu yn isel i addoli,
9 a dweud, “Meistr, os ydw i wedi dy blesio di, wnei di, Meistr, fynd gyda ni? Mae'r bobl yma yn ystyfnig, ond plîs wnei di faddau ein beiau a'n pechod ni, a'n derbyn ni yn bobl arbennig i ti dy hun?”