30 Pan welodd Aaron a phobl Israel Moses yn dod, roedd ei wyneb yn dal i ddisgleirio, ac roedd ganddyn nhw ofn mynd yn agos ato.
31 Ond dyma Moses yn galw arnyn nhw, a dyma Aaron a'r arweinwyr eraill yn dod yn ôl i siarad gydag e.
32 Wedyn dyma'r bobl i gyd yn dod draw ato, a dyma Moses yn dweud wrthyn nhw beth oedd y gorchmynion roedd Duw wedi ei roi iddo ar Fynydd Sinai.
33 Pan oedd Moses wedi gorffen siarad â nhw, byddai'n rhoi gorchudd dros ei wyneb.
34 Ond pan fyddai'n mynd i mewn i siarad â'r ARGLWYDD byddai'n tynnu'r gorchudd i ffwrdd nes byddai'n dod allan eto. Wedyn byddai'n dweud wrth bobl Israel beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn iddo,
35 a byddai pobl Israel yn gweld wyneb Moses yn disgleirio. Yna byddai'n rhoi'r gorchudd yn ôl dros ei wyneb nes byddai'n mynd yn ôl i siarad â'r ARGLWYDD eto.