24 Roedd pawb oedd eisiau rhoi arian neu bres yn ei gyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Roedd eraill yn dod ag unrhyw goed acasia oedd ganddyn nhw.
25 Roedd y gwragedd oedd â dawn nyddu yn dod â'r defnydd roedden nhw wedi ei wneud – edau las, porffor, neu goch, neu liain main drud.
26 Roedd gwragedd eraill wedi eu hysgogi i fynd ati i nyddu defnydd wedi ei wneud o flew gafr.
27 Dyma'r arweinwyr yn rhoi cerrig onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest.
28 Hefyd perlysiau ac olew olewydd ar gyfer y lampau, yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus.
29 Felly, daeth pobl Israel ag offrymau gwirfoddol i'r ARGLWYDD – dynion a merched oedd yn awyddus i helpu i wneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddyn nhw ei wneud drwy Moses.
30 Dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel, “Mae'r ARGLWYDD wedi dewis Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda.