20 Yna gwneud dwy ddolen aur arall eto, a'u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod wrth ymyl y gwnïad sydd uwch ben strap yr effod.
21 Wedyn clymu dolenni'r darn dros y frest i ddolenni'r effod gydag edau las, i'w gadw uwch ben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd. Roedd hyn i gyd yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
22 Gwnaeth gwehydd y fantell sy'n mynd gyda'r effod i gyd yn las.
23 Roedd lle i'r pen fynd trwyddo yn y canol, gyda hem o'i gwmpas, wedi ei bwytho fel coler i'w atal rhag rhwygo.
24 Wedyn roedd pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi eu gwneud o edau las, porffor a coch, a lliain main.
25 Ac yna gwneud clychau o aur pur a'i gosod nhw rhwng y pomgranadau ar ymylon y fantell –
26 clychau a ffrwythau bob yn ail o gwmpas y fantell fyddai'n cael ei gwisgo i wasanaethu, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.