28 Hefyd twrban a penwisgoedd o liain main, a dillad isaf o'r lliain main gorau.
29 Ac roedd y sash i'w wneud o'r lliain main gorau hefyd, wedi ei frodio gydag edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
30 Wedyn gwneud medaliwn o aur pur, y symbol ei fod wedi ei gysegru i waith Duw, a crafu arno (fel ar sêl) y geiriau: ‛Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD‛
31 Wedyn ei glymu ar du blaen y twrban gydag edau las, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
32 Felly roedd yr holl waith ar y Tabernacl (sef Pabell Presenoldeb Duw) wedi ei orffen. Roedd pobl Israel wedi gwneud popeth yn union fel dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
33 Felly dyma nhw'n dod â'r Tabernacl at Moses, sef y babell ei hun a'r darnau eraill i gyd: y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion a'r socedi.
34 Y gorchudd o grwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, y gorchudd o grwyn môr-fuchod, a llen y sgrîn.