6 Yna dyma nhw'n gosod y cerrig onics mewn gwaith ffiligri o aur, a crafu enwau meibion Israel arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud.
7 Yna eu rhoi nhw ar strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
8 Wedyn dyma nhw'n gwneud y darn sy'n mynd dros y frest, wedi ei gynllunio'n gelfydd gan artist. Ei wneud yr un fath â'r effod – allan o liain main wedi ei frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch.
9 Roedd wedi ei blygu drosodd i wneud poced 22 centimetr sgwâr.
10 Yna gosod pedair rhes o gerrig arno: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl;
11 yr ail res yn lasfaen, saffir ac emrallt;
12 y drydedd res yn iasinth, calcedon ac amethyst;