1 Ond dyma Moses yn ateb, “Beth os wnân nhw ddim fy nghredu i? Beth os ddwedan nhw, ‘Wnaeth yr ARGLWYDD ddim dangos ei hun i ti.’?”
2 Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Beth ydy hwnna yn dy law di?” A dyma fe'n ateb, “Ffon.”
3 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Tafla hi ar lawr.”Dyma fe'n taflu'r ffon ar lawr, a dyma hi'n troi'n neidr. A dyma Moses yn cilio'n ôl yn reit sydyn.
4 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Estyn dy law a gafael ynddi wrth ei chynffon.” A dyma Moses yn estyn ei law a gafael ynddi, a dyma hi'n troi yn ôl yn ffon yn ei law.
5 “Gwna di hyn, a byddan nhw'n credu wedyn fod yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid – Duw Abraham, Isaac a Jacob – wedi ymddangos i ti.”
6 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Rho dy law i mewn yn dy fantell.” Felly dyma fe'n rhoi ei law yn ei fantell. Ond pan dynnodd hi allan, roedd brech fel gwahanglwyf drosti, roedd yn wyn fel yr eira!
7 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud eto, “Rho dy law yn ôl i mewn yn dy fantell.” Felly dyma Moses yn rhoi ei law yn ôl yn ei fantell, a pan dynnodd hi allan y tro yma, roedd hi'n iach eto, fel gweddill ei groen!