12 Felly dos; bydda i'n dy helpu di i siarad, ac yn dy ddysgu di beth i'w ddweud.”
13 Ond meddai Moses, “O, plîs, Meistr, anfon rhywun arall!”
14 Erbyn hyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Moses, “Iawn! Beth am dy frawd Aaron, y Lefiad? Dw i'n gwybod ei fod e'n gallu siarad yn dda. Mae e ar ei ffordd i dy gyfarfod di. Bydd e wrth ei fodd pan fydd e'n dy weld di!
15 Byddi di'n dweud wrtho beth i'w ddweud. Bydda i'n dy helpu di a'i helpu fe i siarad, ac yn dangos i chi beth i'w wneud.
16 Bydd e'n siarad ar dy ran di gyda'r bobl. Bydd e'n siarad ar dy ran di, a byddi di fel ‛duw‛ yn dweud wrtho beth i'w ddweud.
17 A dos â dy ffon gyda ti – byddi'n gwneud arwyddion gwyrthiol gyda hi.”
18 Felly dyma Moses yn mynd yn ôl adre at Jethro, ei dad-yng-nghyfraith, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd yn ôl at fy mhobl yn yr Aifft, i weld os ydyn nhw'n dal yn fyw.”A dyma Jethro'n dweud wrtho, “Dos, a bendith arnat ti!”