1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn rwyt i godi'r Tabernacl – Pabell presenoldeb Duw.
3 Rho Arch y dystiolaeth ynddi, gyda'r sgrîn o'i blaen yn cuddio'r Arch.
4 Yna dod â'r bwrdd i mewn, a gosod popeth mewn trefn arno. Wedyn y menora, a gosod ei lampau yn eu lle arni.