1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn rwyt i godi'r Tabernacl – Pabell presenoldeb Duw.
3 Rho Arch y dystiolaeth ynddi, gyda'r sgrîn o'i blaen yn cuddio'r Arch.
4 Yna dod â'r bwrdd i mewn, a gosod popeth mewn trefn arno. Wedyn y menora, a gosod ei lampau yn eu lle arni.
5 Rho'r allor aur (allor yr arogldarth) o flaen Arch y dystiolaeth, a sgrîn wrth y fynedfa i'r Tabernacl.
6 Yna gosod yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, Pabell presenoldeb Duw.