16 Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
17 Cafodd y Tabernacl ei godi ar ddiwrnod cynta'r ail flwyddyn.
18 Dyma Moses yn ei godi drwy roi'r socedi yn eu lle, yna codi'r fframiau, cysylltu'r croesfarrau a rhoi'r polion yn eu lle.
19 Wedyn dyma fe'n lledu'r babell dros fframwaith y Tabernacl, a'r gorchudd dros hwnnw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
20 Yna dyma fe'n gosod Llechi'r Dystiolaeth yn yr Arch, cysylltu'r polion iddi a rhoi'r caead arni.
21 Wedyn mynd â'r Arch i'r Tabernacl a gosod llen y sgrîn o'i blaen, i guddio Arch y Dystiolaeth, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
22 Wedyn dyma fe'n gosod y bwrdd tu mewn i Babell Presenoldeb Duw, ar ochr ogleddol y Tabernacl, o flaen y sgrîn.