7 Rho'r ddysgl fawr rhwng Pabell presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi gyda dŵr.
8 Yna gosod yr iard o'i chwmpas, a hongian llenni mynedfa'r iard.
9 “Wedyn cymer yr olew eneinio, a'i daenellu ar y Tabernacl a phopeth sydd ynddi, i'w cysegru a'u gwneud yn sanctaidd.
10 Eneinia'r allor i losgi'r offrymau a'i hoffer i gyd. Cysegra'r allor i'w gwneud hi'n gwbl sanctaidd.
11 Yna eneinia'r ddysgl fawr a'i stand, i'w chysegru hi.
12 “Wedyn rwyt i ddod ag Aaron a'i feibion at fynedfa Pabell presenoldeb Duw a'u golchi nhw gyda dŵr.
13 Arwisga fe gyda'r gwisgoedd cysegredig, a'i eneinio a'i gysegru i wasanaethu fel offeiriad i mi.