13 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron fod rhaid iddyn nhw fynd yn ôl at bobl Israel ac at y Pharo, am eu bod i arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft.
14 Dyma enwau penaethiaid teuluoedd Israel:Meibion Reuben, mab hynaf Israel: Hanoch, Palw, Hesron a Carmi – enwau teuluoedd o lwyth Reuben.
15 Meibion Simeon: Iemwel, Iamin, Ohad, Iachin, Sochar a Saul (mab i ferch o Canaan) – enwau teuluoedd o lwyth Simeon.
16 A dyma enwau meibion Lefi (bob yn genhedlaeth): Gershon, Cohath a Merari (Roedd Lefi wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.)
17 Meibion Gershon bob yn deulu: Libni a Shimei
18 Meibion Cohath: Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel (Roedd Cohath wedi byw i fod yn 133 mlwydd oed.)
19 Meibion Merari: Machli a Mwshi. Dyma deuluoedd llwyth Lefi (bob yn genhedlaeth).