16 A dyma enwau meibion Lefi (bob yn genhedlaeth): Gershon, Cohath a Merari (Roedd Lefi wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.)
17 Meibion Gershon bob yn deulu: Libni a Shimei
18 Meibion Cohath: Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel (Roedd Cohath wedi byw i fod yn 133 mlwydd oed.)
19 Meibion Merari: Machli a Mwshi. Dyma deuluoedd llwyth Lefi (bob yn genhedlaeth).
20 Roedd Amram wedi priodi Iochefed, chwaer ei dad, a nhw oedd rhieni Aaron a Moses. (Roedd Amram wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.)
21 Meibion Its'har oedd Cora, Neffeg a Sichri.
22 Meibion Wssiel oedd Mishael, Eltsaffan a Sithri.