21 Meibion Its'har oedd Cora, Neffeg a Sichri.
22 Meibion Wssiel oedd Mishael, Eltsaffan a Sithri.
23 Roedd Aaron wedi priodi Eliseba (merch Aminadab, a chwaer i Nachshon), a nhw oedd rhieni Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar.
24 Meibion Cora oedd Assir, Elcana ac Abiasaff. Eu disgynyddion nhw oedd y Corahiaid.
25 Roedd Eleasar (mab Aaron) wedi priodi un o ferched Pwtiel, a nhw oedd rhieni Phineas. Dyma benaethiaid y teuluoedd o lwyth Lefi.
26 Y rhain oedd yr Aaron a'r Moses wnaeth yr ARGLWYDD siarad â nhw, a dweud, “Dw i am i chi arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft mewn rhengoedd trefnus.”
27 Nhw oedd y rhai aeth i siarad â'r Pharo, brenin yr Aifft, a mynnu ei fod yn gadael i bobl Israel fynd allan o'r Aifft – yr un Moses ac Aaron.