27 Nhw oedd y rhai aeth i siarad â'r Pharo, brenin yr Aifft, a mynnu ei fod yn gadael i bobl Israel fynd allan o'r Aifft – yr un Moses ac Aaron.
28 Pan siaradodd yr ARGLWYDD gyda Moses yn yr Aifft,
29 dwedodd wrtho, “Fi ydy'r ARGLWYDD. Dw i eisiau i ti ddweud wrth y Pharo, brenin yr Aifft, bopeth dw i'n ei ddweud wrthot ti.”
30 Ond dyma Moses yn ateb yr ARGLWYDD, “Dw i'n siaradwr gwael! Pam ddylai'r Pharo wrando arna i?”