6 Felly, dywed wrth bobl Israel, ‘Fi ydy'r ARGLWYDD. Dw i'n mynd i ddod â chi allan o'r Aifft. Fyddwch chi ddim yn gaethweision i'r Eifftiaid o hyn ymlaen. Dw i'n mynd i'ch achub chi rhag cael eich cam-drin ganddyn nhw. Dw i'n mynd i ddefnyddio fy nerth i'ch rhyddhau chi, ac yn mynd i'w cosbi nhw.
7 Dw i'n mynd i'ch gwneud chi yn bobl i mi fy hun. Fi fydd eich Duw chi. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw wnaeth eich achub chi o fod yn gaethweision yn yr Aifft.
8 Bydda i'n dod â chi i'r wlad wnes i addo ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob – eich gwlad chi fydd hi wedyn! Fi ydy'r ARGLWYDD.’”
9 Dyma Moses yn dweud hyn i gyd wrth bobl Israel, ond roedden nhw'n gwrthod gwrando arno. Roedden nhw mor ddigalon am eu bod yn cael eu cam-drin mor ofnadwy.
10 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
11 “Dos at y Pharo, brenin yr Aifft, a dweud wrtho fod rhaid iddo ryddhau pobl Israel o'i wlad.”
12 Ond dyma Moses yn ateb yr ARGLWYDD, “Dydy pobl Israel ddim yn fodlon gwrando, felly pam ddylai'r Pharo wrando arna i? Dw i'n siaradwr gwael.”