8 Bydda i'n dod â chi i'r wlad wnes i addo ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob – eich gwlad chi fydd hi wedyn! Fi ydy'r ARGLWYDD.’”
9 Dyma Moses yn dweud hyn i gyd wrth bobl Israel, ond roedden nhw'n gwrthod gwrando arno. Roedden nhw mor ddigalon am eu bod yn cael eu cam-drin mor ofnadwy.
10 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
11 “Dos at y Pharo, brenin yr Aifft, a dweud wrtho fod rhaid iddo ryddhau pobl Israel o'i wlad.”
12 Ond dyma Moses yn ateb yr ARGLWYDD, “Dydy pobl Israel ddim yn fodlon gwrando, felly pam ddylai'r Pharo wrando arna i? Dw i'n siaradwr gwael.”
13 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron fod rhaid iddyn nhw fynd yn ôl at bobl Israel ac at y Pharo, am eu bod i arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft.
14 Dyma enwau penaethiaid teuluoedd Israel:Meibion Reuben, mab hynaf Israel: Hanoch, Palw, Hesron a Carmi – enwau teuluoedd o lwyth Reuben.