10 Pan aeth Moses ac Aaron at y Pharo, dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma Aaron yn taflu ei ffon ar lawr o flaen y Pharo a'i swyddogion, a dyma'r ffon yn troi'n neidr anferth.
11 Ond yna dyma'r Pharo yn galw am swynwyr doeth a consurwyr – dewiniaid yr Aifft, oedd yn gwneud yr un math o beth drwy hud a lledrith.
12 Dyma nhw i gyd yn taflu eu ffyn ar lawr, a dyma'r ffyn yn troi'n nadroedd. Ond dyma ffon Aaron yn llyncu eu ffyn nhw i gyd!
13 Ond roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed. Roedd yn gwrthod gwrando arnyn nhw, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
14 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Mae'r Pharo mor ystyfnig. Mae'n gwrthod rhyddhau y bobl.
15 Bore yfory dos i'w gyfarfod pan fydd yn mynd i lawr at yr afon. Dos i sefyll ar lan yr Afon Nil, yn disgwyl amdano. Dos â dy ffon gyda ti, sef yr un wnaeth droi'n neidr.
16 Dywed wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, wedi fy anfon i atat ti i ddweud, “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw fy addoli i yn yr anialwch!” Ond hyd yn hyn rwyt ti wedi gwrthod gwrando.