18 Bydd y pysgod yn marw, a bydd yr Afon Nil yn drewi. Fydd pobl yr Aifft ddim yn gallu yfed dŵr ohoni.”’”
19 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed wrth Aaron am estyn ei ffon dros ddyfroedd yr Aifft – yr afonydd, y camlesi, y corsydd a'r dŵr sydd wedi ei gasglu – er mwyn i'r cwbl droi'n waed. Bydd gwaed drwy'r wlad i gyd, hyd yn oed yn y bwcedi pren a'r cafnau carreg.”
20 Dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Codi'r ffon a taro dŵr yr Afon Nil o flaen llygaid y Pharo a'i swyddogion. A dyma ddŵr yr Afon Nil yn troi'n waed.
21 Dyma'r pysgod yn yr afon yn marw, ac roedd y dŵr yn drewi mor ofnadwy, doedd pobl yr Aifft ddim yn gallu ei yfed. Roedd gwaed drwy wlad yr Aifft i gyd!
22 Ond dyma ddewiniaid yr Aifft yn gwneud yr un peth drwy hud a lledrith. Felly roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed, ac yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
23 Dyma'r Pharo'n mynd yn ôl i'w balas, yn poeni dim am y peth.
24 Ond roedd pobl gyffredin yr Aifft yn gorfod cloddio am ddŵr, am eu bod yn methu yfed dŵr yr Afon Nil.